Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mehefin 2020
Amser:
09.00 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6385
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AS (Cadeirydd) Andrew RT Davies AS Llyr Gruffydd AS Neil Hamilton AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Tegryn Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro Jerry Langford, Coed Cadw Rachel Sharp, Ymddiriedolaethau Natur Cymru Katie Jo Luxton, RSPB Wales Jess McQuade, WWF Wales Rebecca Williams, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Gill Bell, Marine Conservation Society |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) Katy Orford (Ymchwilydd) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, cafwyd datganiad gan y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu y dylid gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor i ddiogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Os byddai unrhyw broblemau technegol yn codi yn ystod y cyfarfod, gan olygu y byddai ei gyswllt band eang yn cael ei dorri, nododd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Jenny Rathbone AS yn cymryd ei lle fel Cadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda'r sector amgylcheddol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gill Bell, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; Tegryn Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yn cynrychioli’r tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru; Jerry Langford, Coed Cadw; Katie-Jo Luxton, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru; Rachel Sharp, Ymddiriedolaethau Natur Cymru; Jess McQuade, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru; Rebecca Williams, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
3 COVID-19: Parhau gyda sesiwn dystiolaeth y sector amgylcheddol
3.1 Parhaodd yr Aelodau i holi Gill Bell, Y Gymdeithas Cadwraeth Forol; Tegryn Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – yn cynrychioli’r tri Awdurdod Parciau Cenedlaethol Cymru; Jerry Langford, Coed Cadw; Katie-Jo Luxton, Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) Cymru; Rachel Sharp, Ymddiriedolaethau Natur Cymru; Jess McQuade, Cronfa Bywyd Gwyllt y Byd (WWF) Cymru; Rebecca Williams, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Ymateb Llywodraeth Cymru at adroddiad y Pwyllgor ar Dlodi Tanwydd yng Nghymru
4.2 Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
4.3 Gohebiaeth at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
5.1. Derbyniwyd y cynnig.
6 COVID-19: Trafod y dystiolaeth a daeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod eitemau 2 a 3.
7 Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Ategol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU
7.1 Trafododd yr Aelodau y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Ategol ar gyfer Bil Amaethyddiaeth y DU.
8 Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â Bil Amgylchedd y DU
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft, ac yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd arno.
9 Trafodaeth ar flaenraglen waith y Pwyllgor
9.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.